T 029 2080 3500

Paul Sullivan

Prif Beiriannydd

Rydym ni’n griw sy’n gweithio’n galed ac sydd wrth ein bodd yn gwneud y gwaith – a’i wneud yn dda.

Beth ydych chi’n ei wneud drwy’r dydd?

Rwy’n gyfrifol am reoli amrywiaeth eang o brosiectau ac rwy’n chwarae rhan allweddol wrth ddylunio pob math o gynlluniau priffordd o wahanol faint, rhai bach a mawr, ar draws y rhanbarth.

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich rôl?

Mae amrywiaeth y gwaith yn ein cadw’n effro drwy’r amser. Dydych chi byth yn gwybod beth all godi nesaf. Hefyd, rwy’n hoff iawn o’r cyfeillgarwch ymhlith fy holl gydweithwyr ac rwy’n cael boddhad go iawn o weld prosiectau’n cael eu cwblhau’n llwyddiannus ac yna gweld eu buddion parhaus i’r ardal leol.

Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith yn dda?

Mae angen i chi fod yn wirioneddol ymroddedig i bob prosiect a bod yn drefnus tu hwnt. Mae’r gallu i weithio’n hawdd gyda phobl eraill yn hanfodol, oherwydd byddwch yn delio â llawer o wahanol grwpiau o bobl, o fewn y cwmni a thu hwnt. Hefyd, byddwch yn barod am unrhyw her, gan fod llawer o wahanol fathau o brosiectau, gyda gwahanol ddisgwyliadau.

A ydych chi wedi datblygu’n bersonol neu’n broffesiynol ers i chi ymuno â’r sefydliad?

Roeddwn yn cael fy nghyflogi gan Glamorgan Engineering Consultancy cyn iddynt uno â WSP UK mewn cyd-fenter, felly roedd byd cwbl newydd yn agor. Ers ymuno â WSP UK, rwyf wedi ennill statws Peiriannydd Corfforedig a dod yn aelod o Gymdeithas Archwilwyr Diogelwch Ffordd.

A’r tu allan i’r gwaith, beth yw’ch diddordebau?

Ers i mi roi’r gorau i chwarae pêl-droed, rwy’n dipyn o gefnogwr o’r soffa. Hefyd, rwy’n gwneud cryn dipyn o gerdded ac yn mwynhau ambell daith ar y beic.

Yn ôl i’r brig