T 029 2080 3500

Lee Selway

Cydymaith

Mae’n braf gweithio gyda pheirianwyr cymwys o’r un anian sy’n gallu fy helpu i gyfrannu at lwyddiant prosiect.

Beth ydych chi’n ei wneud drwy’r dydd?

Yn fyr, rwy’n dylunio ac yn rheoli seilweithiau peirianneg sifil i dri awdurdod lleol allweddol.

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich rôl?

Gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol at gynlluniau peirianneg sifil a phriffyrdd yn fy nghymuned leol. Man lle’r ydw i a llawer o’m cydweithwyr yn byw. Ymunais â Redstart (neu WSP UK, fel yr oedd bryd hynny) gan fod ganddynt enw da iawn am eu gwaith yn ne Cymru. Rwy’n edrych ymlaen yn frwd at brosiectau sydd ar ddod, fel rheoli timau seilwaith ac ecoleg Morgannwg.

Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith yn dda?

Deall anghenion y cleient a rheoli ei ddisgwyliadau. Mae cyfathrebu a rheoli rhaglenni yn effeithiol yn allweddol i lwyddiant unrhyw gynllun. Mae hyn o fudd i bawb gan fod hyn yn sicrhau perthnasoedd gwaith da a dim digwyddiadau annisgwyl.

A ydych chi wedi datblygu’n bersonol neu’n broffesiynol ers i chi ymuno â’r sefydliad?

Rwy wedi cael llawer o gyfle i ddatblygu fy sgiliau yn rheoli pobl, sydd wedi fy helpu yn broffesiynol ac yn bersonol. Cyn ymuno â’r sefydliad, roeddwn i’n gweithio ar gynlluniau priffyrdd a seilwaith mawr ar hyd a lled y DU. Rwy’n defnyddio’r sgiliau a ddysgais yn rhan o’r rheiny, yma, a hynny tra’n dysgu llawer o sgiliau newydd.

A’r tu allan i’r gwaith, beth yw’ch diddordebau?

Rwy’n frwd iawn am saethu colomennod clai yn fy nghlwb lleol. Hefyd, rwy’n mynd i’r gampfa’n rheolaidd i gadw’n heini a phwy nad yw’n mwynhau ymlacio gyda ffrindiau a theulu?

Yn ôl i’r brig