T 029 2080 3500

Kate Hatton

Cynlluniwr Cludiant Graddedig

Mae diwylliant arbennig o waith tîm yn y swyddfa. Mae pawb yn gyfeillgar ac yn barod i helpu bob amser.

Beth ydych chi’n ei wneud drwy’r dydd?

Rwy’n gweithio i gwmni ymgynghorol yn ymgymryd â phrosiectau cynllunio cludiant. Mae’r rhain yn gynlluniau i gerddwyr a beicwyr yn bennaf, gan mai bwriad fy holl waith yw gwella seilwaith. Hefyd, rwy’n gwneud llawer o archwiliadau ac asesiadau ar safleoedd ar gyfer cynlluniau diogelwch ffordd ac archwiliadau cerddwyr a beicio.

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich rôl?

Yr amrywiaeth! Rwy’n cael y cyfle i weithio ar gymaint o wahanol brosiectau. Trwy hyn, rwy’n gallu dysgu llawer o sgiliau defnyddiol a gweithio gyda gwahanol bobl, naill ai yn y cwmni neu’n uniongyrchol gyda chleientiaid. Hefyd, rwy’n mwynhau bod allan ar safle. Mae cymaint o agweddau ar y gwaith.

Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith yn dda?

Mae angen i chi fod yn hyblyg a threfnus i gadw trywydd ar yr holl brosiectau gwahanol, a bod yn gyfathrebwr da i ddelio â chleientiaid. Oherwydd maint prosiectau a’u hamrywiaeth, byddwch yn aml yn gweithio gyda gwahanol rannau o’r swyddfa, felly mae bod yn aelod da o dîm yn hanfodol hefyd.

A ydych chi wedi datblygu’n bersonol neu’n broffesiynol ers i chi ymuno â’r sefydliad?

Yn sicr. Roeddwn i’n gweithio yn Llundain fel Cynlluniwr Cludiant Graddedig ac ymunais â WSP UK am fy mod yn awyddus i ehangu amrywiaeth fy mhrofiad ym maes cynllunio cludiant a’r sector cludiant yn ehangach. Rwy’ wedi gwneud hyn trwy weithio ar amrywiaeth fawr o brosiectau ers ymuno, o archwiliadau safleoedd diogelwch ffordd, i fapio GIS, i greu Cynlluniau Teithio ac Asesiadau Cludiant. Mae hyn wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi ac wedi caniatáu i mi ddysgu sgiliau newydd.

A’r tu allan i’r gwaith, beth yw’ch diddordebau?

Rwy’n mwynhau teithio ac rwy bob amser yn meddwl am gynllunio fy nhaith dramor nesaf. Yn y wlad hon, rwy’n hoff o gadw’n heini ac actif trwy fynd i’r gampfa.

Yn ôl i’r brig