T 029 2080 3500

Jack Thorrington

Technegydd dan Hyfforddiant

Mae bod yn rhan o gwmni sydd mor ymroddgar, gwybodus, proffesiynol ac sy’n gweithio mor galed, yn deimlad da.

Beth ydych chi’n ei wneud drwy’r dydd?

Rwy’n dylunio systemau trydanol ar gyfer gwasanaethau priffyrdd. Mae’n waith diddorol a heriol ac yn rhan annatod o ddylunio ac adeiladau systemau ffordd newydd. Mae’n fy nghadw i’n brysur, heb os.

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich rôl?

Y peth gorau yw gweithio gydag arbenigwyr eraill o wahanol ddisgyblaethau ac rwy’n cael dweud fy nweud, gan fod aelodau eraill o staff yn parchu ac yn rhoi pwys ar fy arbenigedd penodol i.

Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith yn dda?

Mae angen i chi allu gwrando’n dda. Mae angen i chi barchu barn a chyngor pobl eraill. Ond, yn bwysicaf oll, rhaid i chi allu gweithio mewn tîm a gwybod sut i gydweithredu â’ch tîm eich hun a phobl o wahanol ddisgyblaethau.

A ydych chi wedi datblygu’n bersonol neu’n broffesiynol ers i chi ymuno â’r sefydliad?

Heb os. Bob dydd, rwy’n teimlo fy mod i’n tyfu fel gweithiwr proffesiynol ac fel person, sydd yr un mor bwysig. Rwy’n gweithio’n galed i fod cystal ag y gallaf fod yn fy swydd ac mae’r bobl o’m cwmpas wir yn fy helpu gyda hynny.

A’r tu allan i’r gwaith, beth yw’ch diddordebau?

Yn yr haf, rwy’n gwirfoddoli gydag elusen o’r enw AFASIC, sy’n cefnogi pobl ifanc ag anawsterau iaith a lleferydd. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dioddef o anhwylderau ar y sbectrwm awtistig ac elfennau eraill o awtistiaeth, felly rydym ni’n gwneud llawer o weithgareddau awyr agored, fel dringo. Mae hyn yn eu helpu i feithrin hyder, dysgu sut i gymdeithasu a gweithio fel tîm trwy ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu.

Yn ôl i’r brig