T 029 2080 3500

Holly Lewis

Uwch Ecolegydd

Nid yn unig y mae’n lle hamddenol a chyfeillgar i weithio, mae’n lle gwych i wthio’ch hun yn broffesiynol hefyd.

Beth ydych chi’n ei wneud drwy’r dydd?

Rwy’n cynnal asesiadau o effeithiau ecolegol, arolygon rhywogaethau a warchodir a mapio cynefinoedd. Hefyd, rwy’n rheoli timau a phrosiectau o ddydd i ddydd.

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich rôl?

Rwy’n hoff o’r amrywiaeth sy’n dod gyda’r swydd. Rwy wastad yn gweithio ar wahanol brosiectau ac yn gwneud tasgau amrywiol, sy’n aml yn heriol.

Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith yn dda?

Mae’n hanfodol gallu gweithio o dan bwysau yn ystod tymor yr arolygon ecolegol. Hefyd, mae angen i ecolegwyr weithio’n galed a bod yn drefnus tu hwnt.

A ydych chi wedi datblygu’n bersonol neu’n broffesiynol ers i chi ymuno â’r sefydliad?

Yn wreiddiol, dechreuais fel myfyrwyr ar Flwyddyn Leoliad o Brifysgol Caerdydd. Ers dechrau ar sail amser llawn, rwyf wedi ennill dealltwriaeth well o lawer o’r proffesiwn ac ochr yn ochr â hynny, mae gennyf hyder cynyddol yn fy ngallu fy hun.

A’r tu allan i’r gwaith, beth yw’ch diddordebau?

Rwy’n mwynhau teithio ac yn hoffi ymweld â chynifer o wledydd ag y gallaf. Hefyd, rwyf wrth fy modd yn cadw’n heini a darllen.

Yn ôl i’r brig