T 029 2080 3500

Elis Phillips

Cynlluniwr Cludiant Graddedig

Mae’n wych gweithio’n galed fel rhan o dîm i fodloni pob terfyn amser a chael ymatebion cadarnhaol gan gleientiaid.

Beth ydych chi’n ei wneud drwy’r dydd?

Unrhyw beth sy’n ymwneud â chludiant ond, yn bennaf, rwy’n ysgrifennu adroddiadau sy’n cynnwys datganiadau cludiant a chynlluniau teithio.

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich rôl?

Amrywiaeth y gwaith. Yn aml, byddaf i’n gweithio ar nifer o brosiectau ar yr un pryd, ac maen nhw i gyd yn gwbl wahanol. Cyn i mi ymuno, roeddwn i’n Rheolwr Eiddo mewn asiantaeth osod, felly mae’n wych defnyddio fy ngradd mewn Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol i ddechrau fy ngyrfa mewn cynllunio cludiant. A gweithio gyda sefydliad mor llwyddiannus.

Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith yn dda?

Mae angen i chi fod yn drefnus iawn a gweithio’n galed, wrth gwrs, a meddu ar sgiliau ysgrifennu da. Hefyd, mae’n hanfodol gallu rhyngweithio’n dda â chydweithwyr mewn amrywiol ddisgyblaethau.

A ydych chi wedi datblygu’n bersonol neu’n broffesiynol ers i chi ymuno â’r sefydliad?

Yn sicr, rwy’n datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Mae fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o’r rôl a’m proffesiwn wedi cynyddu ddengwaith.

A’r tu allan i’r gwaith, beth yw’ch diddordebau?

Rwy’n chwarae ac yn gwylio pêl-droed, ac yn yr haf, rwy’n mwynhau chwarae tenis a golff.

Yn ôl i’r brig