T 029 2080 3500

Ein Diwylliant

Sut beth yw hi i weithio i Redstart? Yn hytrach na cheisio disgrifio diwylliant y cwmni, yn ein barn ni, doethach oedd gofyn i’n gweithwyr am eu barn am weithio i ni?

Dyma ddywedon nhw:

Mae’n braf gweithio gyda pheirianwyr cymwys o’r un anian sy’n ymddwyn yn broffesiynol ac sy’n cyfrannu at lwyddiant prosiect. Mae llawer ohonynt yn elwa’n uniongyrchol hefyd, gan fod y prosiectau’n digwydd yn eu cymunedau lleol.
Lee Selway

Gallaf ei grynhoi mewn dau air: hamddenol, cyfeillgar
Holly Lewis

Mae pawb yn gweithio’n galed, yn unigol ac fel tîm, i sicrhau ein bod yn gorffen erbyn y terfyn amser ac yn cael adborth cadarnhaol gan gleientiaid
Elis Phillips

Mae’n awyrgylch braf a chyfeillgar i weithio ynddo. Mae ein diwylliant yn cael ei greu hefyd gan ein hamrywiol bartneriaethau ar draws y DU, felly rydym yn aml yn croesawu sefydliadau a phobl newydd ‘i’r teulu’.
Mark Rees-Williams

Dyna gwestiwn anodd, ond yn fy marn i, mae’r diwylliant yn un sy’n gweithio’n galed, yn ymroddgar, yn wybodus ac yn broffesiynol iawn.
Jack Thorrington

Yn ôl i’r brig