Rydym yn cydnabod mai ein pobl sy’n gyfrifol am ein llwyddiant. Hefyd, rydym yn cydnabod bod anghenion, amcanion a dyheadau pawb yn wahanol. Felly, cynigiwn sawl ffordd o’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau technegol, proffesiynol a phersonol trwy gydol eich gyrfa.
Yn ymarferol, mae hynny’n golygu eich helpu i gynyddu’ch profiad a’ch gwybodaeth, ac ehangu’ch sgiliau mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft:
- Hyfforddiant yn y gwaith
- Anogaeth a mentora
- E-ddysgu a hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth yn fewnol ac allanol
- Seminarau a chynadleddau
Y lle ar gyfer lleoliadau
Bob blwyddyn, rydym yn cefnogi tri math o leoliad:
- Lleoliadau profiad gwaith o’r ysgol neu’r coleg.
- Lleoliadau yn ystod gwyliau coleg neu brifysgol.
- Lleoliadau interniaeth neu flwyddyn allan.
Yn barod ar gyfer heddiw ac yfory
Mae’r math o gwsmer rydym ni’n gweithio gydag ef yn newid. Mae hyn yn golygu bod angen i’n gweithlu newid hefyd, fel y gallwn fodloni anghenion y cwsmer yn well a gweithio’n agosach ac yn fwy cydweithredol gydag ef. Ac, o edrych ymhellach, rydym yn datblygu ffrwd o dalent at y dyfodol.
Timau hapus, cwsmeriaid hapus
Heddiw, mae ein pobl yn fwy cydweithredol ac mae ganddynt fwy o ogwydd tuag at y tîm nag erioed. Credwn yn gryf yng ngrym meithrin diwylliant cydweithredol gyda chyfuniad amrywiol o bobl sydd â gwahanol sgiliau, profiad a ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau. Mae hyn wedyn yn arwain at staff hapusach, sy’n arwain at fwy o gynhyrchedd, lefelau cadw gwell, morâl gwych a mwy o arloesi. Ac i gwmni fel ni, nid opsiwn yw arloesi, yn hytrach mae’n hanfodol i’r busnes.
Rhoi’n ôl
Pwrpas Redstart yw helpu cymunedau i ffynnu a llwyddo. Ac rydym yn annog ein staff i wirfoddoli yn eu cymuned leol. Mae pawb sy’n gweithio gyda ni’n gallu cael un diwrnod i ffwrdd â thâl bob blwyddyn i wirfoddoli. Neu gallant rannu eu diwrnod yn rhannau llai i helpu gyda phrosiectau yn y gymuned neu brosiectau tymor hwy.