T 029 2080 3500

Y gerbytffordd B4265

Diwrnod cyffredin arall i redstart

Credwn fod partneriaethau da yn creu busnes da. Bob dydd, gwelwn effaith gadarnhaol a pharhaol ein gwaith ar y rhanbarth. Dyma sut rydym ni’n gwneud gwahaniaeth yn y dinasoedd, trefi a chymunedau rydym yn gweithio ynddynt.

O dan nawdd Llywodraeth Cymru, cawsom gomisiwn gan Gyngor Bro Morgannwg i adlinio ffordd y B4265 rhwng Silstwn ac Oldmill.

Yn rhan o’r prosiect, roedd angen dileu’r aliniad llorweddol a fertigol gwael ar ran o’r ffordd rhwng Afon Ddawan a Chyffordd Sain Tathan. Hefyd, roedd angen adeiladu pont bibellau dau rychwant dros y ffordd gerbydau arfaethedig.

I fodloni gofynion ecolegol Llywodraeth Cymru, bu’n rhaid i ni ddod o hyd i gartref newydd i nythaid o wiberod a oedd yn byw gerllaw safle’r gwaith yn y lle cyntaf.

Nid pob dydd y mae’n rhaid i chi ddod o hyd i gartref newydd i nythfa o nadroedd prin

Ond, roedd rhaid i ni oresgyn heriau mawr eraill hefyd, sef:

  • cynnal y garthffos weithredol uwchlaw tra’n dymchwel y cynheiliaid concrit presennol a gosod strwythur pont bibellau newydd yn eu lle
  • cydymffurfio â gofodau clirio’r bont bibellau a sicrhau bod yr aliniad newydd uwchlaw lefelau penllanw’r gwanwyn
  • presenoldeb creigiau bas
  • gwneud gwaith heb darfu ar weithrediadau yng ngorsaf bŵer Aberddawan ac RWE gerllaw.

Cwblhaom y gwaith dros 15 mis a chael canmoliaeth hael gan y cleient:

Bu’n gyfnod buddiol ac addysgiadol yn gweithio gyda’r tîm. Maen nhw wir wedi ennill fy nghanmoliaeth am y ffordd y cyflawnwyd y prosiect. Byddai’n bleser gweithio gyda’r unigolion hyn eto.

Yn ôl i’r brig