Prosiectau sy’n gweithio ar hyd y daith
Pan ofynnodd Llywodraeth Cymru i ni greu gorsaf drenau newydd yn Pye Corner ar Linell Glyn Ebwy ar gyrion Casnewydd mewn 13 mis yn unig, roeddem wrth ein bodd â’r her.
Ar ôl bod yn rhan o gam datblygu’r cynllun gwreiddiol i ailagor llinell Glyn Ebwy yn 2008, roeddem yn barod.
Er ein bod mewn sefyllfa dda i wasanaethu’r boblogaeth, fe wnaeth y safle cul a hir, a’r gwahaniaeth o bum metr rhwng lefel y trac a Heol Western Valley greu nifer o heriau. I fynd i’r afael â hyn a sicrhau fforddiadwyedd:
- fe wnaethom baratoi dogfennau tendr, rhoi cyngor ar gynllunio ac amcangyfrif costau
- darparom ddyluniad hyfywedd, yn cynnwys arolygon ecolegol, geodechnegol, arolygon sŵn, aseisad traffig a datganiad cludiant
- fe wnaethom reoli peirianneg sifil y briffordd a’r rheilffordd, draenio, tirlunio, monitro a gwerthuso, strwythurau a thelathrebu, ac roeddem yn gyd-drefnydd CDM
Agorodd yr orsaf ym mis Rhagfyr 2014, gyda phlatfform 145 metr, cysgodfa, System Wybodaeth i Gwsmeriaid, teledu cylch cyfyng, peiriant tocynnau, parcio i feiciau a maes parcio â 60 lle. Hefyd, fe wnaethom edrych tuag at y dyfodol, gan sicrhau bod lle ar gyfer ail drac a phlatfform, trydaneiddio’r llinell, gwefru cerbydau trydan a ffordd fynediad arall.