Canol tref a chanolfan gludiant ar eu newydd wedd
Ein pwrpas yw helpu cymunedau a’u trigolion i ffynnu. A llunio cysylltiadau gwell rhwng y trefi a’r dinasoedd rydym yn gweithio ynddynt.
Felly, pan gawsom ein comisiynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i uwchraddio canol tref a gorsaf fysiau Pontypridd, aethom ati ar unwaith.
Mae’n creu amgylchedd llawer mwy deniadol i siopwyr ac ymwelwyr â’r dref, ac mae’n pwysleisio hynodrwydd y dref.
Yn rhan o brosiect canol y dref, cafodd y strydoedd a’r mannau gwag eu gwella gan ddefnyddio palmant, dodrefn, goleuadau a chelf gyhoeddus o ansawdd uchel, a draenio cynaliadwy.
Roedd Cynllun Gwella’r Orsaf Fysiau, a ddyluniwyd yn 2002 ac a gwblhawyd dros gyfnod o 18 mis, yn cynnwys cynyddu nifer y lleoedd i fysiau, o chwech i 12. Roedd diweddariadau eraill yn cynnwys:
- Adeiladu cysgodfa math canopi dros y llwybr cerdded
- Cyrbau yn dangos ffiniau bysiau i hwyluso mynediad i bobl anabl
- Caffi newydd
- Caban gwybodaeth a thocynnau, dan oruchwyliaeth
- Toiledau a system allwedd RADAR ar gyfer mynediad 24 awr i bobl anabl
Roedd cyflwr gwael ar yr hen orsaf fysiau ac nid oedd llawer o le. [Roedd hi’n her] rhoi gwedd unigryw i’r orsaf fysiau, a’r cyfan o fewn y safle cyfyngedig presennol