T 029 2080 3500

Pont Calzaghe

Cyflawni chwip o brosiect

Fel partner cyd-fenter gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gofynnwyd i ni ddylunio a rheoli prosiect Pont Calzaghe yn Nhrecelyn, sef prosiect gwerth £3.2 filiwn.

Mae’r bont, sy’n rhan o Raglen Adfywio Trecelyn, yn gyswllt pwysig i gerddwyr a beicwyr a’i nod yw helpu adfywio canol y dref. Roeddem wrth ein bodd yn cael bod yn rhan ohoni.

Bu’r prosiect cyfan yn enghraifft ragorol o weithio mewn partneriaeth.
Idris McCarthy, Cadeirydd Partneriaeth Trecelyn

Mae gan y bont, a ariannwyd trwy grantiau cludiant Llywodraeth Cymru, cyllid y Gronfa Datblygu Rhanbarthol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Phartneriaeth Cymuned Trecelyn, ddwy bont gysylltiedig, sef llwybr beicio a llwybr cerdded. Mae un yn rhychwantu Rheilffordd Glyn Ebwy ac mae’r llall yn rhychwantu Afon Ebbw.

  • Mae Pont y Rheilffordd yn un rhychwant, gyda chyplau vierendeel crwm hanner trwodd.
  • Mae Pont Afon Ebbw yn uwchstrwythur dur un rhychwant ag ategion cebl. Caiff ei chynnal gan un mast ar oledd wedi’i gosod yn ganolog yn y llwybr cerdded ac yn ymestyn uwchlaw’r dec.

Agorwyd y bont yn swyddogol gan y pencampwr byd diguro, Joe Calzaghe, a’i hyfforddwr arobryn, ei dad Enzo, a dyma oedd pen llanw cynllun ‘Llwybrau Diogel mewn Cymunedau’ Trecelyn, y mae’r bont newydd yn rhan annatod ohono.

Mae’n anrhydedd i ni fod y tirnod hwn wedi’i enwi ar ein hôl ni ac rydym yn gobeithio bydd y gymuned gyfan yn mwynhau buddion y bont.
Joe Calzaghe

Yn ôl i’r brig