T 029 2080 3500

Sgwâr Penderyn

Rhoi bywyd newydd i ferthyr

Yn 2008, fe wnaeth adolygiad o adfywio canol tref Merthyr Tudful amlygu nifer o brosiectau yr oedd eu hangen, ym marn yr adolygiad, i sefydlu canol y drefn yn brif ganolbwynt ar gyfer ardal Blaenau’r Cymoedd. Dyma lle daethom ni yn rhan ohoni.

Darparom wasanaethau dylunio a pheirianneg ar gyfer Prosiect Cyswllt Canolog Afon Taf a Sgwâr Penderyn, gwerth £25 miliwn – sef canolbwynt rhaglen adfywio Merthyr Tudful.

Mae gweld prosiect adnewyddu trefol cynhwysfawr yn cael ei gyflawni’n effeithiol fel hyn yn haeddu clod.
Beirniad Gwobrau ICE Wales Cymru

Roedd ein gwaith ar y cynllun cyswllt yn cynnwys:

  • adeiladu Plaza y Coleg, yn cysylltu Chwarter Dysgu Merthyr â glan yr afon a chanol y dref
  • gwella hygyrchedd i ganol y dref yn sylweddol trwy system gylchu unffordd
  • adeiladu Pont newydd Santes Tudful, yn cynnwys strwythur bwa sgiw eiconig
  • darparu lôn fysiau bwrpasol a chyffordd wedi’i hailfodelu ar gyfer traffig yn Stryd y Castell.

Yn ogystal, fe wnaethom ddylunio Sgwâr newydd Penderyn tu allan i Hen Neuadd y Dref, sydd wedi’i hadnewyddu. Mae Sgwâr Penderyn yn ardal amlbwrpas sy’n cynnal marchnadoedd a pherfformiadau byw, gan helpu atgyfnerthu hunaniaeth ddiwylliannol Merthyr Tudful. Oherwydd bod traffig wedi’i arafu i 20 milltir yr awr a bod palmant dros y ffordd gerbydau, mae’n rhoi llawer mwy o flaenoriaeth i gerddwyr.

Enillodd y prosiect y Wobr Arbennig ar gyfer Adfywio yng Ngwobrau blynyddol ICE Wales Cymru.

Yn ôl i’r brig