Cymuned gyfan yn elwa o ffordd osgoi
Y gymuned sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Felly, roeddem wrth ein bodd pan drodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf atom i adeiladu Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys, gwerth £90 miliwn.
Roedd cynllun y ffordd gerbydau sengl 6.5 cilometr wedi lleihau traffig yn sylweddol ar ffordd brysur yr A473, gan wella diogelwch y ffordd, sŵn a dirgrynu, ac ansawdd yr aer i drigolion a busnesau.
Roedd llwybr gwerth £3 miliwn i gerddwyr a beicwyr yn cyd-redeg â’r cynllun ar ei hyd, gan gysylltu cymunedau a chynnig dewis cludiant diogel a chynaliadwy.
Yn ogystal, roedd y cynllun yn cynnwys amddiffyn pathewod, madfallod cribog, moch daear, brithion y gors, dyfrgwn, ymlusgiaid ac ystlumod lleol.
Creodd y prosiect 37 o swyddi lefel mynediad, cododd dros £50,000 i achosion da a dyfarnodd dros 75% o is-gontractau ac archebion am ddeunyddiau i fusnesau lleol.
Arweiniodd y tîm y prosiect drwy brynu’r tir, Ymchwiliad Cyhoeddus llwyddiannus, ceisiadau cynllunio ac atebion i amrywiaeth o broblemau amgylcheddol.
Roedd y prosiect, a agorodd ym Medi 2010 ac a ariannwyd trwy Grant Cludiant gan y Cynulliad Cenedlaethol, wedi arbed dros £37 miliwn. Cyflawnom hyn fel a ganlyn:
- Adlinio’r briffordd (yn fertigol ac yn llorweddol)
- Strwythurau pontydd wedi’u rhag-gastio, gan dorri costau ac arbed amser
- Sicrhau cydbwysedd cloddio o ran pob deunydd a gafwyd o’r safle
- Ailddefnyddio 300,000 o deiars fel nodweddion cynnal cloddiau
- Symleiddio aliniadau ffyrdd mynediad
- Ailddylunio cyfeirio cyfleustodau
Cyflawnodd tîm y safle nod diogelwch arwyddocaol, sef 1,000,000 o oriau gweithio heb ddamwain adroddadwy.
The team won three gold ROSPA and had an AFR of 0.07, significantly less than the industry average of 0.5.