T 029 2080 3500

Yn Y Gymuned

Mae Redstart yn rhan o’r gwead sy’n clymu dros 500,000 o bobl ynghyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Rydym yn bodoli i helpu unigolion a chymunedau i ffynnu a meithrin cysylltiadau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

NI ALLWCH OSGOI DIOGELWCH

Yn ystod prosiect Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys, fe wnaethom roi anerchiadau ar ddiogelwch, cynnal ymweliadau â safleoedd a chefnogi mentrau seiliedig ar adeiladu mewn ysgolion i 10,000 a mwy o bobl. Yn ogystal, rhoddom deithiau safle a chyflwyniadau i fyfyrwyr o brifysgolion lleol a chenedlaethol. A thrwy ein partneriaeth â grŵp graddedigion ICE lleol, cyflwynom gyfres o ddarlithoedd ar hanes, dichonoldeb, cynllunio, dylunio ac adeiladu Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys ym Mhrifysgol Caerdydd.

ADEILADU PONTYDD GYDAG YSGOLION LLEOL 

Fe wnaeth ein swyddfa yng Nghaerdydd gefnogi menter Pontydd i Ysgolion ICE trwy ddarparu llysgenhadon i helpu adeiladu pontydd mewn ysgolion lleol, ynghyd â chyflwyniad i beirianneg. Dan nawdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Abertyleri, aethom â’r bont i Ysgol Gyfun Abertyleri fel y gallai’r ysgol hon a’i hysgolion bwydo adeiladu’r bont.

RHOI BYWYD I BWLL DIFFAITH

Gwelai rai bwll diffaith, wedi’i fandaleiddio, yn Ysgol Gynradd Ty Isaf. Gwelsom ni gyfle i helpu i’w droi’n ardal ddysgu awyr agored fywiog a defnyddiol. Dros benwythnos, fe wnaeth 12 o’n staff wirfoddoli i roi help llaw. Fe wnaeth y tîm gloddio’r holl hen wastraff o’r pwll, gosod leinin newydd i’r pwll a chreu llwybrau newydd. Gosodont bum tunnell o gerrig mân a symud tua deg tunnell o bridd oddi yno yn ystod y broses. Cafodd coed eu plannu ar y cyd â’r contractwr yn Efail Isaf i wella golwg y pentref.

GLANHAU YSGOL GYNRADD

Rhoddodd pedwar ar ddeg aelod staff eu hamser ar ddydd Sadwrn i helpu ysgol gynradd leol i lanhau’r brif fynedfa. Roedd yr ardal allanol oedd yn arwain at yr ysgol wedi gordyfu ac yn edrych yn ddiflas, felly bu’r tîm yn gweithio drwy’r dydd yn golchi’r ardal ag offer pŵer, yn tocio ac yn cyweirio, a hefyd yn gosod llechfaen yn y gwely blodau.

DIGWYDDIADAU ERAILL A CHODI ARIAN 

Diolch i’n cysylltiadau agos â Chanolfan Mileniwm Cymru, rydym wedi trefnu amrywiol ddigwyddiadau Celfyddydol a Pheirianegol dros y blynyddoedd diwethaf. Nod y digwyddiadau yw rhoi cipolwg i ddisgyblion blynyddoedd 9 a 10 i fyd peirianneg a chelf. Mae ein staff yn cymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian yn rheolaidd ar ran elusennau lleol a chenedlaethol sy’n agos at eu calon. Dychmygwch Her y 3 Chopa, marathonau a theithiau beic.

10,000 Rydym wedi rhoi anerchiadau ar ddiogelwch, cynnal ymweliadau â safleoedd a chefnogi mentrau seiliedig ar adeiladu mewn ysgolion i 10,000 a mwy o bobl
Yn ôl i’r brig