T 029 2080 3500

Ein Stori

Mae Redstart yn dwyn ffocws WSP UK yng Nghymru ynghyd ac yn ei gyd-drefnu. Ar y cyd â Llywodraeth Cymru a’r Awdurdodau Unedol, rydym yn gweithio ar draws portffolio llawn o lwyfannau seilwaith, eiddo, iechyd a chyfathrebu TG ddigidol.

O BLE Y DAETHOM

Mae gwreiddiau Redstart yn mynd yn ôl 20 mlynedd. Daethom i fodolaeth yn wreiddiol i ymateb i ad-drefnu Llywodraeth Leol, pan drodd ymgynghoriaethau dylunio Gwent a Morgannwg yn ddarparwyr cydwasanaethau ar gyfer nifer o awdurdodau lleol. Y nod: cynnig gwasanaethau arbenigol mwy cost-effeithiol i awdurdodau lleol i ymateb i gronfa gyfyngedig o bobl ac adnoddau. Y syniad oedd rhannu a masnachu gwasanaethau ar draws ffiniau.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, trodd Ymgynghoriaeth Gwent yn Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat o’r enw Cwmni Cyd-fenter WSP UK Gwent. Bu’r gynghrair strategol â WSP UK yn gatalydd ar gyfer cynnal sgiliau technegol a phroffesiynol o ansawdd uchel ac annog y sefydliad i edrych y tu hwnt i waith ymgynghorol traddodiadol, gan ystyried gwerth am arian a buddsoddiad yn ehangach. Arweiniodd ei llwyddiant at greu Cyd-fenter WSP UK Glamorgan yn 2008, gyda chyfnod gweithredu 15 mlynedd hyd at 2023.

BLE RYDYM HEDDIW

Wedi’i leoli ar gyrion Caerdydd, mae tîm y gyd-fenter heddiw wedi’i integreiddio’n grŵp o 160 aelod staff sy’n gweithio ac yn byw yn ne Cymru, yn darparu gwasanaethau cynhwysfawr yn 11 o’r 22 Awdurdod yng Nghymru, ac i brosiectau masnachol ar draws y Deyrnas Unedig, gan ddatblygu sgiliau a chynnal cyflogaeth yn lleol. Bellach, mae gennym gyfle i ddefnyddio cryfder ein gwybodaeth am lywodraeth leol a’n cysylltiadau â hi i helpu cyflawni twf rhanbarthol y tu hwnt i’r cylch gwaith craidd, sef seilwaith priffyrdd a chludiant, trwy gysylltu â gwasanaethau ehangach WSP UK.

I BLE RYDYM YN MYND

Mae Redstart yn ymateb hyderus i ddangos newid mewn cyfeiriad a chyfle. Un sy’n caniatáu i ni ac awdurdodau eraill sy’n cydweithio yn ne Cymru i ymateb i raddfa’r cyfle sy’n cael ei gynnig gan fodelau seilwaith newydd fel Dinas-Ranbarthau a’r Fargen Ddinesig. Mae’r rhain yn gofyn am ddeilliannau holistig ehangach a chyflwynant heriau mwy. Heriau sy’n galw am lefelau uwch o bartneriaeth a mynediad at ddatblygiad eiddo a gweithredu achosion busnes buddsoddi masnachol.

Yn syml, bydd Redstart yn llunio, yn cyflwyno ac yn cefnogi prosiectau rhanbarthol cydweithredol, gan fuddsoddi lle y bo’n briodol i wireddu cynlluniau.

AMCANION ALLWEDDOL REDSTART AR GYFER Y 3-5 MLYNEDD NESAF

Gweithio gydag awdurdodau lleol, busnesau a chymunedau i:

  • Gynyddu cydweithrediad ymhlith awdurdodau lleol a chymunedau.
  • Rhoi gwell gwerth am arian trwy rannu adnoddau, cyfleoedd a refeniw.
  • Darparu gwasanaethau lleol pellgyrhaeddol sy’n gallu cael eu haddasu i anghenion comisiynwyr a defnyddwyr.
  • Hyrwyddo ein sgiliau a’n galluoedd ehangach y tu hwnt i seilwaith priffyrdd a chludiant.
160 Nifer y bobl sy’n gweithio’n lleol yn y gyd-fenter, ac ochr yn ochr â hi, ar draws y portffolio o wasanaethau seilwaith.
Yn ôl i’r brig