Mae Redstart yn un gronfa fawr o wybodaeth, profiad ac arbenigedd ym maes cludiant a phriffyrdd. A gallwn gymhwyso’n gwybodaeth, ein technoleg a’n hadnoddau eang yn lleol neu ymhellach i ffwrdd.
Trwy weithio mewn amgylchedd BIM, ein nod yw darparu prosiectau cludiant a phriffyrdd yn gyflymach ac yn graffach, ond mae ein gwasanaethau hefyd yn ymwneud â phontydd a waliau cynnal, a pheirianneg geodechnegol, gan gynnwys sefydlogi argloddiau, monitro a lliniaru, materion ecoleg ac amgylcheddol a rheoli prosiectau yn gyffredinol.
Rydym hefyd yn cynnig modelu ac asesiadau cludiant, atebion peirianneg diogelwch y ffordd a dadansoddi damweiniau, ynghyd â chynllunio teithio. Mae gwasanaethau eraill a ddarparwn yn cynnig:
- Cymorth i ddatblygwyr preifat
- Dylunio goleuadau stryd, gan gynnwys gosodiadau LED
- Dylunio tirwedd
- Atebion Draenio Trefol Cynaliadwy.
Hefyd, rydym yn cyflogi ecolegwyr ac ymgynghorwyr amgylcheddol a modelu hydrolig a draenio yn fewnol i’ch helpu i gyflawni atebion cwbl integredig.
Arbenigedd ehangach i alw arno
Gallwch hefyd gysylltu â phartneriaid mewn awdurdodau lleol ac arbenigwyr y tu allan i Gymru dros amrywiaeth o feysydd. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli asedau a rhwydweithiau, gwaith stryd, arolygiadau diogelwch statudol, rheoliadau rheoli traffig, canolfannau galwadau a chontractwyr cynnal a chadw DSO.