T 029 2080 3500

Yr Amgylchedd ac Ecoleg

Mae ein timau yn gweithio ar draws amrywiol ddisgyblaethau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn meysydd allweddol fel atal llifogydd, rheoli ynni ac atebion cludiant integredig.

Mae tair rhan i’n dull gweithredu. Yn bennaf oll, rydym am amddiffyn yr amgylchedd er budd pawb. Mae hynny’n golygu ymateb i’r newid yn yr hinsawdd a gostwng allyriadau CO2, ble bynnag a phryd bynnag y bo’n bosibl.

Yn ail, rydym eisiau rhoi’r seilwaith a’r gwasanaethau y mae ar bobl, cymunedau a masnach eu hangen i fwrw ymlaen â’u bywyd a’u busnes – yn effeithlon wrth gwrs, ond hefyd mewn modd cynaliadwy a hwylus i’r amgylchedd.

Ac yn drydydd, rydym yn talu sylw manwl i’r ymrwymiadau a’r gofynion deddfwriaethol amgylcheddol helaeth, cyfnewidiol sydd gennym. Felly hefyd ein partneriaid a’n cydweithredwyr. Mae ein gwasanaethau amgylcheddol yn ymwneud â’r canlynol:

  • Ecoleg
  • Asesiadau strategol yn ymwneud â risg llifogydd
  • Peirianneg arfordirol
  • Seilwaith ar gyfer atebion ynni adnewyddadwy
  • Cynllunio cludiant integredig, teithio actif a theithio
  • Atebion Draenio Trefol Cynaliadwy
  • Lleihau gwastraff adeiladu, trwy gydweithio â phartneriaid contractio a rheoli contractio a dylunio.
Yn ôl i’r brig