T 029 2080 3500

Rheoli Adeiladu

Nid oes unrhyw brosiect adeiladu mor syml fel nad oes angen arbenigwr arnoch. Felly, mae cael pâr o ddwylo profiadol yn gwneud synnwyr, nid yn unig i oruchwylio’r gwaith adeiladu ond i reoli eich prosiect hefyd.

Trwy weithio gyda Redstart, bydd gennych gymhwysedd partneru a rheoli prosiect yr NEC. Gallwch fanteisio ar dimau lleol profiadol sy’n gallu goruchwylio prosiectau adeiladu o bob math hefyd.

Gallwch hefyd fanteisio ar Labordy Profi Deunyddiau WSP UK i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â manylebau, manteisio ar arbenigedd ym maes caffael er mwyn cael y trefniadau contract gorau oll a manteisio ar gynghreiriau contractio presennol WSP UK gyda Dawnus-Ferrovial a Skanska. Hefyd, rydym yn cynnig cyfleoedd Ymwneud Cynnar gan Gontractwr a Dylunio ac Adeiladu.

Fel y byddech yn ei ddisgwyl, gallwn hefyd eich helpu i reoli prosiectau yn ariannol, gan gynnwys rheoli costau a meincnodi, ynghyd â darparu asesiadau gwerth am arian. Ac, os oes angen, gallwn gynnig cymorth i reoli hawliadau.

Cipolwg ar oruchwylio gwaith adeiladu:

  • Cymhwysedd partneru a rheoli prosiect NEC.
  • Timau lleol â phrofiad mewn prosiectau o bob maint.
  • Mynediad at:
    • Labordy Profi Deunyddiau WSP UK.
    • Arbenigedd ym maes caffael er mwyn cael y trefniadau contract gorau oll
    • Cynghreiriau contractio strategol a chyfleoedd Ymwneud Cynnar gan Gontractwr
  • Rheoli ariannol, amcangyfrif costau, meincnodi ac asesiadau gwerth.
  • Cymorth i reoli hawliadau
Yn ôl i’r brig