-
Pwy Ydym Ni
Yn wahanol i gwmnïau ymgynghorol eraill, rydym yn gydweithrediad preifat-cyhoeddus rhwng Cynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, a WSP UK.
-
Beth Rydym Yn Ei Wneud
Rydym yn dwyn ynghyd yr holl elfennau allweddol sy’n gwneud i brosiect lwyddo. Trwy wneud hynny, crëwn leoedd gwych i fyw a gweithio. Lleoedd sy’n galluogi i unigolion, sefydliadau a chymunedau ffynnu.
-
Pam Rydym Yn Ei Wneud
Bob dydd, gwelwn effaith gadarnhaol a pharhaol ein cydweithio a’n partneriaeth ar y rhanbarth. Felly, rydym yn gweithio’n agos gyda’n gilydd a’r cymunedau y mae ein prosiectau yn gwneud gwahaniaeth ynddynt.